![]() | ![]() | ![]() |
Mae tref trawiadol ni wedi bod yn ganolfan gwyliau ers canrifoedd ac mae'n cynnig heddwch i'r rhai sy'n chwilio am loches o chwildro ein bywyd cyfoes ni. |
|
|
Mae tri deg o Flynyddoed o brofiad gyda ni mewn gosod llety hunanddarpar ac y mae llawer iawn o'n cwsmeriaid ni yn dychwelyd blwyddyn ar ol blwyddyn. Gadewch i ni gynnig cartref i chi tra bod chi'n treulio gwyliau yn Sir Benfro. |
Am ragor o wybodaeth am Sir Benfro cliciwch yma |
---|
Os ydych chi'n meddwl am gymryd eich gwyliau yn Dinbych y Pysgod mae'n siwr eich bod chi'n gwybod am brydferthwch y lle ac am hud a lledrith Sir Benfro. Rydyn ni'n gallu cynnig llety cyfoes a chyfforddus fydd yn agor drws i holl atyniadau y dre a'r sir. Yna gewch ddarganfod lloches o ruthr ein bywyd modern ni. O'r ty neu'r apartment gallech gyrraedd bob ran o'r sir er eich bod chi'n aros yn agos at ganol y dre a'r traethau a holl fanteision Dinbych y Pysgod. Mae tri deg o flynyddoed o brofiad gyda ni yn y busnes ac felly gallwn gynnig safon uchel dim yn unig yn y ty a'r apartment ond hefyd yn safon a gwasanaeth rydyn ni'n cynnig i'n cwsmeriaid. Dewch i aros gyda ni, cewch groeso Cymraeg a Chymreig! |
![]() |
![]() |
Rectory Court
Rydyn ni'n ystyried a ty hwn i fod yn ganolfan delfrydol am eich gwyliau.Rydyn ni'n cynnig Wi-Fi yn rhad ac am ddim. Mae'n dy cyswllt - hyny yw ei fod yn sefyll ar ei ben ei hun - wedi cysylltu a'r ty drws nesa gan y garej yn unig. Mae e wedi ei leoli mewnn cul de sac tawel iawn ond serch hynny dyw e ond rhyw bum munud ar droed i Draeth y Gogledd lle cewch chi olygfeydd hyfryd tu hwnt dros y porthladd, y traeth a Castle Hill. Dim ond rhyw hanner canlath nes ymlaen ac yr ydych chi yng nghanol hwyl a sbri canol y dre gydau'i tafarnau, tai bwyta orielau celf ac holl atyniadau eraill y tu fewn i furiau'r dre. Mantais enfawr y ty hwn ydy ei fod e'n gorwedd y tu allan i'r parth cerddwyr ac y mae hynny'n golygu eich bod chi'n gallu cyrraedd a gadael y ty unrhyw amser o'r dydd tra bo pobl sydd a llety tu fewn i'r dre yn dioddef llu o anhawsterau am fod ceir yn cael eu gwahardd o ganol y dre yn yr haf rhwng 11 yn y bore a 5 y prynhawn. Gallech ddychmygu'r problemau sy'n gwynebu pobl tu fewn i'r dre. Bydd cwsmeriaid ni yn medru defnyddio eu ceir pryd bynnag bydden nhw eisiau ac hefyd gwybod bod eu ceir yn ddiogel naill ai yn y garej neu wedi eu parcio ar y lle parcio preifat o flaen y ty tra bydden nhw'n mwynhau cyfleusterau a "cafe culture" canol y dre.. Prin iawn yw rhif y tai sy'n gallu cynnig hyn i gyd ac eto bod mor agos i'r trath a'r dre. Ar ben hynny i gyd dylwn ni son hefyd am y siop bwyd sydd ond rhyw bum munud i ffwrdd. Yn agos iawn hefyd yw'r gorsaf bysiau a'e rheilffordd. O fewn dro bach iawn mae na archfarchnad hefyd. I ddweud y gwir, ar ol cyrraedd fydd dim isiau car o gwbl, gadael e yn garej! Mae'r ty ei hun wedi cael ei adnewyddu'n llwyr yn 2006. Y dodrefn a phopeth arall yn newydd spon. mae'r lliwiau i gyd yn olau ac yn ysgafn. Mae'r cyntedd yn arwain mewn i'r lolfa clud gyda TV lliw, DVD, radio a pheiriant caset.Mae na settee lledr a dwy gadair lledr. O'r lolfa gallech fynd i'r iard cefn, lle hollol ddiogel i blant chwarae lle mae na fwrdd a phedair gadair a BBQ. Yn y gegin/stafell bwyta mae na unedau golau modern hyfryd, peiriant golchi llestri, microwave ac oergell . Lan steiriau mae na un stafell wely ddwbl ac un gyda dau wely sengl. Yno hefyd mae'r stafell molchi gyda toiled, baddon a chawod trydan a baswn molchi. Mae'r garej 17' x 8' (lled y drws ydy 7'). Yn y garej mae na rywgell hefyd. O flaen y ty mae digon o le i un car i barcio. |
|
|
|||
Ystafell wely | Y gegin yn Rectory Court | |||
---|---|---|---|---|
|
| |||
Cornel y lolfa | Golygfa arall o flaen Rectory Court | |||
|
| |||
Y lolfa a'r cyntedd | Golygfa o'r gegin | |||
|
| |||
Stafell molchi | Croeso hefyd yn hwyr yn y nos |
Yn fyr:
|
![]() |
Bwcio | Odi e ar gael | Cysylltwch a ni | Tudalen Cartref |
---|
![]() |
![]() |
Cornel o'r lolfa, Maes-y-Coed
Mae'r apartment ardderchog hwn wedi cael ei adailadu yn bwrpasol, hynny yw dyw e ddim yn addasiad o hen adeilad.Rydyn ni'n falch o allu cynnig Wi-Fi am ddim. Mae'r dodrefn i gyd o safon uchel iawn a'r lliwiau yn olau modern. Rdyn ni'n siwr y byddech chi'n teimlo'n gartrefol iawn yma. Mae'r sefyllfa yn breifat iawn er ei fod e wedi ei leoli ar ymyl stad preifat tua ugain munud ar droed o ganol y dre.O flaen yr apartment mae na lawnt a nifer o goed ac i gyd fyddwch chi'n gallu gweld fydd golygfeydd hollol wyrdd sydd hefyd yn lle sicr i blant chwarae lle y byddech chi'n gallu cadw llygad arnyn nhw. Un mantais enfawr i'r lle ydy'r cyfle i barcio'n sicr a phreifat wrth ochr yr apartment. Mae pobl sy a llety yng nghanol y dre yn dioddef o'r gwaharddiad ar geir o 11 y bore hyd at 5 yn y prynhawn trwy misoedd yr haf.Byddwch chi'n gallu defnyddio eich car unrhyw amser y fynwch chi i ymweld a'r castelloed, yr arfordir a phentrefi Sir Benfro. Rydych chi'n cyrraedd yr apartment lawr set o grisau gardd rhwydd iawn. O flaen y ty mae na batio hyfryd iawn lle gallech chi ddefnyddior BBQ mewn tywydd hyfryd. Yno mae na fwrdd gardd gyda phedwar o gadeiriau gardd. Yn yr apartment ei hun mae'r lolfa mawr sy'n cynnwys set teledu lliw, settee cyfforddus sy'n agor allan i greu gwely dwbwl cyfforddus. Mae'r gegin yn cynnwys unedau derw hardd iawn, oergell a rhywgell. O'r lolfa mae'r olygfa yn hyfryd iawn yn edrych allan ar a lawnt a'r coed. Yn yr ystafell molchi fe ffindiwch gawod trydan, toiled a baswn molchi.Rydyn n'n siwr y byddech chi'n mwynhau yr apartment hwn ac y byddech chi'n falch iawn gyda'r ansawdd. |
|
|
|||
Golygfa o'r patio | Llecyn hyfryd | |||
---|---|---|---|---|
|
|
|||
Y gegin | Ystafell wely | |||
|
| |||
Hyfred yn y gaeaf hefyd | Golygfa arall o'r lolfa | |||
|
| |||
Cegin | Y Lawnt yn Maes y Coed | |||
|
| |||
Golygfa o flaen yr apartment | Y patio a'r drws ffrynt |
Yn Fyr:
|
![]() |
Plan o'r apartment (dim i scel)
![]() |
Bwcio | Odi e ar gael | Cysylltwch a ni | Tudalen Cartref |
---|